Eleri Mills

Born in Llangadfan, Powys, 1955. Studied Art and Design at Manchester Polytechnic. Elected to RCA 2000. “The land has always been there in my mind, beginning with a childhood helping on the farm. The passing on of the land from one generation to the next represents continuity and instils a deep sense of belonging. I grew up, therefore in a place where history and traditions were relevant and my familiar landscape was connected by a network of mythic and cultural associations. The art of storytelling celebrated life in all its forms,t hus fuelling a culture founded on narrative as opposed to a visual tradition,creating fabulous and complex imagery of the mind.”


Ganed yn Llangadfan, Powys, 1955. Astudiodd Gelf a Dylunio ym Mholytechnig Manceinion. Etholwyd i’r AFG 2000. “Mae’r tir wedi bod yna,yn fy meddwl,erioed,gan ddechrau gyda’m plentyndod yn helpu ar y fferm. Mae trosglwyddo’r tir o un genhedlaeth i’r llall yn cynrychioli parhad ac yn rhoi i ni ymdeimlad dwfn o berthyn. Cefais fy magu,felly,mewn man lle’r oedd hanes a thraddodiadau yn berthnasol ac roedd yna gysylltiadau chwedlonol a diwylliannol yn rhwydwaith ar draws fy nhirlun cyfarwydd. Roedd y grefft o adrodd storïau yn dathlu bywyd yn ei holl ffurfiau ac yn hybu diwylliant seiliedig ar draddodiad naratif yn hytrach nag un gweledol,gan greu delweddaeth anhygoel a chymhleth yn y meddwl.”