Gwybodaeth Mynediad
|
|
Amseroedd ar agor Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn 11 - 5, Dydd Sul 1 - 4:30 Ar gau Ddydd Llun
Edrychwch ar daflen yr arddangosfeydd ar gyfer dyddiadau arddangosfeydd. Diolch Bydd yr oriel ar gau am 1 wythnos cyn dechrau pob arddangosfa
Lleolir yr Oriel dau lawr yng nghanol tref Conwy, ger y Strryd Fawr, tu ol i Blas Mawr.
Maes parcio talu ac arddangos ar gael ger y Castell neu ar Ffordd Mount Pleasant. Y ddau le tua 300m i ffwrdd. Yn anffodus, nid oes parcio anabl gerllaw. Gellir gollwng ymwelwyr tu allan i'r oriel ar Lony Goron / Crown Lane, sydd yn stryd dawel iawn.
Lleolir faes tacsi ar Sgwar Lancaster ar ben y Stryd Fawr wrth yml Ffordd Bangor.
Mae'r orsaf drennau agosaf yng Nghyffordd Llandudno, 3km o'r oriel, caiff ei wasanaethu gan Arfordir Gogledd Cymru. Rhedir gwasanaethau pob awr gan amlaf trwy gydol yr wythnos. Mae ambell dren yn stopio yng Nghonwy ei hun trwy orchymyn yn ystod yr haf - edrychwch ar yr amserlen.
Mae safle bws Arriva Cymru (gwasanaeth rhif 5) 200m i ffwrdd o'r oriel ar Ffordd Bangor, mae'n rhedeg pob 30 munud ar ddydiau'r wythnos a phob awr ar Ddyddiau Sul.
Dwy sedd yn y dderbynfa. Cownter isel ar gael trwy orchymyn. Dolen Wrando symudol ar gael trwy orchymyn . Rhai o'r staff wedi'w addysgu mewn ymwybyddiaeth anabledd. Toiled anabl deurywiol ar y llawr gwaelod. Offer newid babanod ar gael. Hefyd toiled deuryw ar y llawr cyntaf.
Nid oes caffi ar y safle.
Man gwerthu cardiau cyfarch, llyfrau a phrintiau yn y ddebynfa.
Labeli ysgrifen fawr a Braile wedi'w ddarparu ar gyfer cynyrch ar werth.
Nid oes teithiau tywys ffurfiol, ond mae staff yn hapus i roi sgyrsiau anffurfiol a gwybodaeth, yn enwedig ar gyfer ymweliadau addysgiadol, sydd wedi'w trefnu o flaen llaw yn ddelfrydol.
Catalogau print mawr ar gael trwy orchymyn.
Lifft platfform i'r llawr cyntaf. Gofynnwch i aelod o staff am gymorth gweithredu'r lifft. Drws mynediad lefel perthynol i'r llawr, gyda agoriad 115cm. Cloch ei mwyn cael mynediad ar yr ochr dde, tu allan.
Adeilad dau lawr. Y ddau lawr yn lefel trwyddi draw. Tair gris i fyny at y man cotiau ar fynedfa argyfwng yn y tu ol. |