Hanes

English>

 

Hanes byr yr Academi Frenhinol Gymreig

 

 

David Cox

 

Top

Brwdfrydedd ynglyn a thirlun Gogledd Cymru ddaeth a chriw o artistiaid at ei gilydd yn 1881. O ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen bu arlunwyr Prydeinig o bwysigrwydd rhyngwladol yn peintio'r mynyddoedd a'r afonydd, wedi i ansicrwydd gwleidyddol wneud y 'Grand Tour' yn beryclach na'r lonydd Cymreig. Ar ol dyfodiad y rheilffyrdd, gallai'r ychydig artistiaid yma o Fanceinion a Lerpwl gario eu paent a'u canfas i Gymru'n ddiogel.
Fe drefnwyd cyfarfod rhyngddynt ag artistiaid Cymraeg o gyffelyb anian yng Nhyffordd Llandudno. Penderfynodd y cylch a ddaeth ynghyd fel hyn alw eu hunain yn Academi Gelf Gymreig. Er nad oedd ganddynt oriel sefydlog, dechreuwyd gyda brwdfrydedd mawr. Anfonwyd eu prospectws i artistiaid eraill yng Nghymru a chynyddwyd y nifer o aelodau. Dim ond yng Ngogledd Cymru yr oeddynt yn arddangos ond bwriadent ymestyn eu haelodaeth i Dde Cymru.

Top

 

Clarence Whaite

President RCA

 

Top

Cawsant eu cydnabod yn swyddogol yn fuan pan orchmynodd y Frenhines Fictoria y dylent gael eu cyfrif yn 'frenhinol' yn 1882. Yna, er mwyn eu enw da, gwnaethant bedwar artist saesneg enwog yn aelodau anrhydeddus a phenderfynwyd trefnu arddangosfa anferth yn y De yng Nghaerdydd, gyda chatalog o 200 tudalen.

Erbyn 1885 yr oeddynt yn ôl yng Nghyffordd Llandudno yn gwneud trefniadau newydd. Cynnigodd yr Arglwydd Mostyn, tirfeddianwr lleol, blasdy o'i eiddo o oes Elisabeth oedd mewn cyflwr go druenus. Plas Mawr Yng Nghonwy oedd hwn ac ysgol gynradd mewn rhan ohono ar y pryd. O 1886 hyd 1993 dyma gartref parhaol yr Academi. Eu prif orchest yn ystod yr amser yma oedd adfer Plas Mawr, a'i wneud yn un o enghreifftiau pwysicaf ym Mhrydain o bensaerniaeth oes Elisabeth.

 

Plas Mawr

 

Top

 

 

Top

Yr oedd yn gefndir ardderchog i ochr gymdeithasol yr Academi, ond nid oedd cystal fel oriel, fel petai hen hanes yr adeilad yn effeithio ar agwedd yr Academi. Yn 1896 rhoddwyd estyniad ar yr adeilad i gael mwy o le i arddangos lluniau, Oriel Fictoria. Yr oedd gwaith arlunwyr heb fod yn aelodau yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfeydd yma a dyma pryd y dechreuwyd yr Arddangosfa Haf Flynyddol.
Yn 1934 daeth Augustus John yn Llywydd, a bu wrthi tan 1939. Wedi'r ail ryfel byd cryfhaodd safon artistig yr Academi ac yn arbennig yn ystod llywyddiaeth brwdfrydig, blaengar dau o Swydd Gaer.

Augustus John

 

Top

'Llanechermedd' gan Sir Kyffin Williams

 

Top

Yn 1994 cafodd yr Academi y cyfle gorau eto i ddechrau o'r newydd a llwyddo. Daeth y cysylltiad a Phlas Mawr i ben ac adeiladwyd oriel bwrpasol ardderchog i'r Academi. Adnewyddwyd cysylltiadau ag orielau yn y De, ac mae'r arlunydd Gymreig adnabyddus, Sir Kyffin Williams yn Llywydd, derbyniodd arlunwyr o'r De a'r Gogledd wahoddiadau i fod yn aelodau. Mae yma frwdfrydedd heintus cyffredinol.

Nid oes diffiniad pendant o 'gelfyddyd Gymreig' ond os yw'n bod, fe'i gwelir o hyn ymlaen yn Oriel yr Academi Frenhinol Gymreig.

gan Myfanwy Kitchin RCA

The RCA has extensive archive material dating back to it's foundation in 1881 and would be happy to assist with any research or queries you might have about a particular artist or painting.
Archive material is also held at the National Library of Wales in Aberystwyth, including details of paintings sold.

Click here to go to NLW website