Search
    Close

    Nothing in your cart yet, add something.

    Hanes yr AFG

    Ym 1881 daeth grŵp o artistiaid, oedd yn ymfalchïo yn nhirwedd Gogledd Cymru, ynghyd a hen hanes ydy’r gweddill medden nhw.

    Ers diwedd y 18fed ganrif, roedd artistiaid o Brydain wedi mynd ati i beintio mynyddoedd ac afonydd Gogledd Cymru, a hynny mewn cyfnod pan fu helbul gwleidyddol dramor. O ganlyniad, roedd yn llawer mwy diogel i bobl fentro i Gymru yn hytrach na chychwyn ar y Daith Fawreddog drwy Ewrop.

    Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, bu i’r wladfa gyntaf un o artistiaid ym Mhrydain ymgartrefu yn Nyffryn Conwy a hynny yn sgil arosiadau David Cox ym Metws-y-Coed rhwng 1844 a 1856. Erbyn 1881, roedd y dyffryn wedi hen ennill ei blwyf fel cartref a phen taith ar gyfer nifer sylweddol o artistiaid proffesiynol ac amatur. Buon nhw’n heidio yma ar drenau o Fanceinion a Lerpwl gyda’u hîsls a’u paent o dan eu cesail yn barod i beintio’r dirwedd o’u cwmpas.

    Roedd y saith dyn wnaeth lansio’r academi yn gysylltiedig gyda’r wladfa artistiaid ond yn fuan iawn bu i’r grŵp ehangu wrth i artistiaid Cymreig tebyg ymuno. Yn 1881 bu i’r grŵp newydd o artistiaid gyfeirio at eu hunain fel Academi Celf Cambrian a bu iddyn nhw gynnal eu harddangosfa gyntaf yn Llandudno. Er nad oedd gan y grŵp oriel barhaol, roedden nhw’n parhau i ffynnu. Bu iddyn nhw ddosbarthu eu prosbectws i artistiaid eraill ledled Cymru a bu i fwyfwy ymuno â’r grŵp.

    Cafodd y grŵp eu cydnabod yn swyddogol yn fuan iawn, pan wnaeth y Frenhines Victoria orchymyn bod yn rhaid cyfeirio at yr Academi fel un ‘Brenhinol’ ym 1882. I hyrwyddo eu henw da ymhellach, bu iddyn nhw benodi pedwar artist Prydeinig enwog yn aelodau anrhydeddus a threfnu arddangosfeydd sylweddol yng Nghaerdydd ym 1884 a 1885.

    No one knows the true definition of Welsh Art, but if it exists, it can be seen at the Royal Cambrian Academy.
    Myfanwy Kitchin RCA 1917 - 2002

    In 1934, Augustus John became the first Welsh president of the Academy. After the Second World War the Academy went from strength to strength, eventually outgrowing its home at Plas Mawr. With the enthusiasm of presidents Jack Shore and Ray Fields, in 1994 the Academy pursued its greatest opportunity for development by relinquishing responsibility for the historic Plas Mawr. Plans were approved to refurbish the disused Capel Seion next door as a dedicated art gallery to become the new home of the RCA.

    Under his second term of presidency from 1992, Sir Kyffin Williams the eminent Welsh artist, approached other distinguished artists from the south and north of Wales to become members to fulfil its constitutional aim to represent the best of art in Wales.

    The Academy holds nine exhibitions per year and has an extensive and lively education programme. The Academy is honoured to have HRH Prince of Wales as Patron and Honorary Artist Member of the Royal Cambrian Academy.

    Rhestr Gwroniaid

    Llywyddion yr Academi Frenhinol Gymreig o 1882 hyd at heddiw.

      • Edwin Arthur Norbury 1882-1885
      • Henry Clarence Whaite 1885-1912
      • Sir Cuthbert Cartwright Grundy 1912-1933
      • Augustus Edwin John 1934-1937 First Welsh President
      • Richard George Hinchcliffe 1938-1942
      • James Scringeour Mann 1942-1946 Maritime Artist
      • Owen Bowen 1946-1954
      • Henry Percy Huggill 1954-1957
      • Samuel John Milton Brown 1958-1960 Maritime Artist
      • E Grainger Smith 1960-1961
      • Alfred Peter Burgess Sharrocks 1962-1962 Book Illustrator
      • William McAllister Turner 1962-1967
      • Alfred Peter Burgess Sharrocks 1967-1969
      • Kyffin Williams 1969-1976
      • Jack Shore 1977-1983
      • Ray Fields 1983-1992
      • Kyffin Williams 1992-2006
      • Maurice Cockerill 2006-2010
      • Ivor Davies 2010-2014
      • Jeremy Yates 2014-2020
      • Ann Lewis 2020-

    Deunydd Archif

    Mae’r AFG yn meddu ar gatalogau arddangosfeydd sy’n dyddio’n ôl i’w dyddiad sefydlu ym 1881 ac fe allwch chi fwrw golwg ar lawer ohonyn nhw ar adrannau eraill y wefan hon. Byddai’r Academi yn fwy na pharod i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymchwil neu ymholiadau fyddai gennych chi am artist neu lun penodol. Mae croeso ichi gysylltu gyda’r oriel gydag unrhyw ymholiad. Gallwch ddod o hyd i ddeunydd archif mwy helaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, gan gynnwys manylion am y paentiadau sydd wedi’u gwerthu. Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Chwilio Safle

      Cau