Gwnewch wahaniaeth – helpwch i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.
Gwnewch wahaniaeth – helpwch i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.
Does dim ots pa mor fach – mae pob rhodd yn cyfrif. Mae Academyddion yr AFG yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn, yn eu stiwdios ledled y wlad, gan greu paentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, printiau a thecstiliau i’w harddangos yn yr oriel yng Nghonwy, gan gadw’r fflam ddiwylliannol yng Nghymru yn fyw.
Ar yr un pryd, mae llawer iawn o waith a chostau cudd yn bodoli i gadw’r oriel i redeg yn esmwyth. O gadw’r goleuadau ymlaen, i ariannu argraffydd swyddfa newydd, talu am y wefan hon, neu ddarparu ar gyfer gweithdai plant – mae popeth yn cronni.
Fel elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd i’n helpu i oroesi, ac rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog y gallwch ei neilltuo i gefnogi ein gwaith, gan gyfoethogi tirwedd ddiwylliannol Cymru.