Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

manual override of alt text

Arddangosfeydd

Bob blwyddyn yn yr oriel yng Nghonwy, rydym yn cynnal rhaglen o arddangosfeydd sy’n cynnwys ystod gyffrous o baentio cyfoes a hanesyddol, printiau, cerflunwaith, ffotograffiaeth a chrefft o bob cwr o Gymru.

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithiau celf ar werth. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu darn o waith celf, galwch heibio i’r oriel yng Nghonwy, anfonwch e-bost at rca@rcaconwy.org neu ffoniwch 01492 593 413, a bydd ein staff cyfeillgar yn hapus i helpu.

Rydym hefyd yn cynnig credyd di-log drwy gynllun Own Art. Mae Own Art yn fenter genedlaethol sy’n gwneud prynu celf a chrefft gyfoes yn fwy fforddiadwy drwy ddarparu credyd di-log ar gyfer prynu gweithiau gwreiddiol. Am ragor o fanylion, ffoniwch yr oriel ar 01492 593 413.

Colin See-Paynton AFG - “Dyma’r Prawf!”
Arddangosfa Gyfredol

Colin See-Paynton AFG - “Dyma’r Prawf!”

08/10/26 - 14/11/26

Mae rhywbeth arbennig iawn am arddangosfa o engrafiadau pren. Rhywbeth ychydig yn wahanol; nid rhywbeth cwbl anhysbys, ond yn sicr yn beth prin iawn.

Darllen mwy »
Seren Bell AFG - Hiraeth
Arddangosfa Gyfredol

Seren Bell AFG - Hiraeth

08/10/26 - 14/11/26

Rwy’n gweithio’n eithaf araf, gan adeiladu’r llun fesul tipyn o amlinelliad bras mewn pensil. Yna, gan ddefnyddio creonau, rwy’n cyflwyno’r lliw, ac wedyn yn tynnu’n fwy gofalus ac yn fanylach drosto â beiro a inc India.

Darllen mwy »

Chwilio Safle

    Cau