Caiff yr Academi Frenhinol Gymreig ei hadnabod am ei rhaglen addysg brysur a chyffrous, sy’n cynnwys gweithdai amrywiol a chyrsiau i oedolion, dosbarthiadau bywlunio wythnosol, Ysgol Gelf i Blant dros yr haf, gweithdai ar-lein, sgyrsiau gan arlunwyr, prosiectau a gwaith cymunedol a llawer mwy.
Rydym yn cynnig sesiynau celf anffurfiol ac ymarferol, ar draws nifer o ddisgyblaethau, naill ai yn yr oriel neu rywle arall dan do, yn yr awyr agored neu ar-lein. Academwyr ac arbenigwyr eraill ym myd y celfyddydau sy’n arwain y sesiynau.
Mae llawer o’n dosbarthiadau yn addas i bob gallu gan gynnwys dechreuwyr, gan roi cyfle i bawb ddatblygu eu dawn greadigol eu hunain.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu cysylltwch gyda:
Nadine Carter-Smith, Cydlynydd Addysg
education@rcaconwy.org
01492 593413