Trysorfa o Weithiau gan Artistiaid Cymreig Blaenllaw
Mae ein rhaglen o arddangosfeydd, sy’n newid yn gyson, yn cynnwys dros 100 o aelodau, pob un yn dod â’i lais unigryw i dirwedd gelfyddydol Cymru. Mae arddangosfeydd unigol trawiadol a sioeau grŵp difyr yn amlygu’r amrywiaeth o arddulliau a straeon o fewn celf Gymreig. Mae rhywbeth newydd i’w ddarganfod bob amser! Mae ein harddangosfeydd deinamig yn eich cadw’n dychwelyd am fwy. Gallwch hyd yn oed weld eich gwaith yn cael ei arddangos ochr yn ochr ag artistiaid sefydledig yn ein Arddangosfa Agored Flynyddol boblogaidd, llwyfan adnabyddus i artistiaid o bob lefel.
Etifeddiaeth o Hyrwyddo Celf Gymreig
Mae stori’r AFG yn dechrau gyda grŵp o artistiaid a ysbrydolwyd gan dirweddau dramatig Gogledd Cymru. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, sefydlodd y rhain eu hunain fel grwp anffurfiol yn Nyffryn Conwy, gan arwain at ffurfio yr Academi Gymreig ym 1881. Sicrhaodd nawdd brenhinol y Frenhines Victoria ym 1882 rôl yr Academi wrth hyrwyddo rhagoriaeth artistig Gymreig. Gallwch ddarganfod mwy am ein hanes yma.
Adeiladu ar Etifeddiaeth Gelfyddydol Gyfoethog
Mae'r Academi Frenhinol Gymreig wedi datblygu’n fawr ers ei sefydlu. Bu’r artist Cymreig enwog Syr Kyffin Williams, a wasanaethodd fel llywydd yn ystod y 1990au, yn ehangu’r aelodaeth i gynnwys ystod eang o leisiau artistig o bob rhan o Gymru. Rhwng 2020 a 2024 arweiniwyd yr Academi gan ei llywydd benywaidd cyntaf, y gwneuthurwraig brintiau Ann Lewis – yn bell o ddyddiau cynnar “dynion yn unig”.
Dyfodol Bywiog i Gelf Gymreig
Mae’r AFG yn cynnig rhaglen o arddangosfeydd brysur ynghyd â rhaglen addysg helaeth a bywiog. Wrth edrych ymlaen, mae’r AFG yn parhau’n ymrwymedig i feithrin talent artistig yng Nghymru, darparu llwyfan i artistiaid sefydledig ac eginol, a sicrhau bod celf Gymreig yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.
Mae Eich Cefnogaeth chi yn Gwneud Gwahaniaeth
Fel elusen gofrestredig, mae’r AFG yn dibynnu ar haelioni ymwelwyr a selogion celf fel chi i barhau â’n cenhadaeth. Mae eich rhoddion yn ein galluogi i gynnal arddangosfeydd cyffrous, cynnig gweithdai ysbrydoledig, a meithrin cenhedlaeth nesaf artistiaid Cymreig. Ystyriwch wneud rhodd heddiw a helpwch ni i gadw creadigrwydd Cymreig yn fyw ac iach. Gallwch wneud rhodd yn hawdd yma.