Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

manual override of alt text

Dod yn Aelod

Mae ceisiadau’n agored i unrhyw un: a anwyd yng Nghymru, neu y mae un o’i rieni wedi’i eni yng Nghymru, neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am 12 mis cyn dyddiad ei gais, neu unrhyw berson sy’n gallu darllen neu ysgrifennu’r Gymraeg.

CANLLAWIAU AR GYFER CAIS AELODAETH

Caiff ymgeiswyr am aelodaeth o’r AFG eu rhoi ar restr fer gan y Cyngor neu is-bwyllgor o’r Cyngor, gyda’u henwau’n mynd ymlaen i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (fel arfer yn yr hydref) bob blwyddyn.

Y Broses Ymgeisio:

Cam cyntaf y broses ymgeisio yw cyflwyno delweddau digidol.

Yna gofynnir i artistiaid sy'n cyrraedd y rhestr fer ddod â gwaith i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yr Academi. Cyfrifoldeb aelodau’r AFG yw’r dewis a’r etholiad – nid oes gan staff yr oriel unrhyw ran yn y broses dethol

Gellir cyflwyno ceisiadau fel a ganlyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn:

  • Gellir anfon delweddau hefyd drwy wefan trosglwyddo ffeiliau fel WeTransfer i’r un cyfeiriad e-bost: admin@rcaconwy.org
  • Datganiad artist, dim mwy nag un dudalen A4
  • CV yr artist
  • Ffi weinyddol o £25 (na ellir ei had-dalu) – trosglwyddiad BACS neu daliad arian parod neu gerdyn drwy ffonio neu ymweld â’r oriel

Os na chewch eich dewis:

Os nad ydych wedi bod yn llwyddiannus, rydym yn eich annog i ail-ymgeisio gyda gwaith newydd y flwyddyn nesaf gan ein bod yn sylweddoli bod artistiaid yn datblygu dros amser.

Os cewch eich dewis:

Os cewch eich dewis ar gyfer ail gam y broses ymgeisio, gofynnir i chi ddod â’r gweithiau canlynol i oriel Academi Frenhinol Cambria / Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – bydd dyddiadau’n cael eu cyhoeddi:

  • 6 darn o waith celf sy’n adlewyrchu eich ymarfer presennol/diweddar
  • Portffolio o weithiau celf, lluniadau a/neu ddogfennaeth arddangosfeydd, ynghyd â llyfrau braslunio ategol

Caiff etholiad i'r Academi Frenhinol Gymreig ei benderfynu drwy bleidlais o blaid ymgeisydd gan o leiaf 51% o’r aelodau sy’n bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr AFG

Membership application form 2026 amended

word, 24.892 KB

Chwilio Safle

    Cau