ETHOLWYD YN 2012
Mae Chloë Holt (g. 1981) yn beintiwr Prydeinig ac yn un o’r artistiaid ieuengaf i gael ei hethol i’r Royal Cambrian Academy of Art yn 2012. Yn yr un flwyddyn, enillodd Wobr Darlunio Kyffin Williams. Yn 2010, dyfarnwyd iddi Wobr Ryngwladol Lorenzo il Magnifico yn y Florence Biennale am weithiau ar bapur. Mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Dylunio Tecstilau gyda Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, ac mae’n Gymrawd o’r Royal Society of Arts.
“Wedi’i hysbrydoli gan y gallu i ddisgrifio a chyfleu profiad drwy baent, mae fy ngwaith yn cysylltu â theimlad o berthyn, i mi fy hun ac i’r gwyliwr. Mae arddull a phynciau’r paentiadau’n newid wrth i mi fyfyrio ar y byd, ond mae rhai elfennau’n parhau — ysbryd emosiynol, ymdeimlad o amser, a chof.
Rwy’n canolbwyntio ar gyfansoddiad, dadelfeniad, lliw a ffurf, gan greu arwynebau â rhythm a dyfnder sy’n tywys y llygad. Mae fy arwynebau’n cael eu gweithio, eu tarfu a’u hail-ffurfio — proses arbrofol lle mae’r deunydd yn chwarae rhan weithredol. Cyfuniad o feddwl a deunydd, wedi’i lywio gan fy nghefnndir mewn tecstilau a diddordeb mewn arwyneb a phresenoldeb.”
Website