Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

Members:
MATTHEW WOOD

ETHOLWYD YN 2019

Cynhyrcha Matthew Wood baentiadau yn y stiwdio ac ar leoliad, boed yn dirwedd neu tu fewn. Mae ei arfer celf yn deillio o'r broses o weithio o arsylwad cynradd neu plein-air lle mae'n ceisio datblygu dull a thechneg sydd yn fynegiannol ac yn uniongyrchol, y tu mewn a'r tu allan i'r stiwdio.

Mae defnyddio persbectif a golau yn thema amlwg yn ei holl waith. Mae'r dyfnder a'r symudiad o fewn pob cyfansoddiad yn galluogi'r paentiad i ddod yn fyw. Rhaid i olygfa fod yn atmosfferig, yn gofiadwy, yn nodedig ac yn ysbrydoledig, boed yn goridor sy'n cael ei anwybyddu neu'n ddyffryn cudd - gyda'r broses o edrych a phenderfynu ar gyfansoddiad weithiau'n digwydd sawl blwyddyn cyn i baentiad gael ei wneud mewn gwirionedd.

Wedi'i hyfforddi yn Llundain ym Mhrifysgol Middlesex a Phrifysgol Cymru Aberystwyth, mae Matthew wedi byw a gweithio yng Ngwlad Belg a Chymru. Mae ei waith yn cael ei gadw mewn casgliadau preifat a chyhoeddus.

Website

Chwilio Safle

    Cau