Search
    Close

    Nothing in your cart yet, add something.

    Prosiectau cymunedol

    Yn Yr Academi Frenhinol Gymreig rydym yn falch iawn o weithio’n agos gyda’n cymuned leol

    Yn ddiweddar rydym wedi mwynhau gweithio gyda myfyrwyr o Ysgol Glan Gele, Ysgol Elfod a theuluoedd ifanc o Creating Enterprise Abergele ar brosiectau celf sy’n gysylltiedig â’r gyfres deledu I’m a Celebrity sy’n cael ei ffilmio gerllaw.

    Am y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio gydag aelodau o Conwy Connect, grŵp cymorth sy’n hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod y cyfnod clo creuwyd gweithdai “Celf mewn Bag” i helpu'r cyfranogwyr i barhau i fod yn greadigol o gartref. Mae’r grŵp bellach yn rhan annatod o’r oriel, ac maent wedi cael dwy arddangosfa gyda ni.

    Roeddem yn falch o gael ein gwahodd i greu pecynnau synhwyraidd ar gyfer cwmni gwych o’r enw Making Sense. Nod y gwasanaeth yw darparu gweithgareddau ysgogol i bobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog, i’w creu gyda’u staff cymorth.

    Yn ystod y flwyddyn rydym yn creu gofod yn yr oriel i arddangos gwaith a grëwyd yn y gymuned. Mae rhai o’r arddangosfeydd wedi cynnwys gwaith gan fyfyrwyr pensaernïaeth o Brifysgol Huddersfield, Cymdeithas Ffotograffiaeth Gogledd Cymru a chystadleuaeth portread Manga i bobl ifanc.


    I gael gwybod mwy am ein prosiectau cymunedol neu os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yn ein gofod cymunedol, cysylltwch â ni: 01492 593 413 education@rcaconwy.org

    Chwilio Safle

      Cau