Search
    Close

    Nothing in your cart yet, add something.

    Polisi Canslo Gweithdai

    CANSLO GAN Y CYFRANOGWR

    Fel arfer mae'r AFG yn gofyn i chi dalu am weithdai a digwyddiadau ymlaen llaw.
    Os byddwch yn rhoi gwybod 14 diwrnod neu fwy cyn dechrau’r gweithgaredd, cewch ad-daliad o 50%.

    Os byddwch yn tynnu’n ôl ar ôl i’r gweithgaredd ddechrau, ni fyddwch yn cael ad-daliad.

    Rhaid anfon e-bost i roi gwybod am ganslo, gan esbonio’r rheswm dros adael, i:
    rca@rcaconwy.org

    Bydd yr AFG yn ystyried pob achos yn deg ac yn rhesymol.

    CANSLO GAN YR AFG

    Rydym yn ceisio cynnal pob gweithgaredd fel y’i hysbysebir.
    Fodd bynnag, gall gweithgareddau gael eu canslo neu eu newid os nad oes digon o bobl wedi cofrestru, neu oherwydd amgylchiadau annisgwyl.

    Gall dyddiadau ac amseroedd newid.

    Os bydd rhaid i ni ganslo gweithgaredd (fel dosbarth neu weithdy), byddwn yn rhoi gwybod i bawb ar unwaith.
    Bydd gennych ddewis o:

    • ad-daliad llawn, neu
    • symud eich taliad i weithgaredd arall o’r un gwerth.

    Os caiff un sesiwn mewn cwrs ei chanslo, byddwn yn cynnig dyddiad arall i’w wneud i fyny.
    Neu gallwch ddewis cael ad-daliad am y sesiwn honno.

    Bydd yr AFG yn rhoi ad-daliad o fewn tair wythnos i ddyddiad y canslo.

    YMDDYGIAD MYFYRWYR / CYFRANOGWYR

    Mae'r AFG yn disgwyl i bawb ymddwyn yn barchus ac yn ddiogel.

    Ar ddechrau pob gweithgaredd, bydd y tiwtor yn esbonio unrhyw reolau neu ofynion diogelwch — rhaid eu dilyn bob amser.

    Os yw rhywun yn ymddwyn yn amhriodol, yn anniogel neu’n aflonyddgar:

    • bydd rhybudd llafar yn cael ei roi
    • os bydd yn parhau, gofynnir iddynt adael

    GWYBODAETH DIWEDDARAF

    Mae gwefan yr AFG yn cynnwys y wybodaeth fwyaf diweddar am ddyddiadau a gweithgareddau.

    Rydym yn cynghori pawb i wirio’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i gael diweddariadau.

    YMWRTHODIAD

    Rydym wedi gwneud ein gorau i ddarparu gwybodaeth gywir.

    Mewn amgylchiadau arbennig (fel pandemigau neu drychinebau naturiol neu economaidd), gall telerau ychwanegol fod yn berthnasol.

    Nid yw'r AFG yn gyfrifol am unrhyw wallau neu wybodaeth ar goll.
    Gallwn newid y wybodaeth hon ar unrhyw adeg, gan gynnwys ychwanegu, dileu neu newid gweithgareddau.

    Chwilio Safle

      Cau