Awst 2025 - MAE EIN RHAGLEN DDYSGU AR GAU NES BYDD HYSBYSIAD PELLACH
Yma yn Yr Academi Frenhinol Gymreig, rydym yn angerddol am danio creadigrwydd ymhlith pobl o bob oedran a chefndir.
Mae ein gweithdai difyr, sgyrsiau gan artistiaid, a phrosiectau cymunedol yn archwilio amrywiaeth o ddisgyblaethau yn cynnwys cerflunio, lluniadu, tecstilau, printio, a phaentio. Caiff y sesiynau eu harwain gan ein Haelodau Academaidd a gan arbenigwyr eraill, i sicrhau bod pawb yn derbyn arweiniad arbenigol mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.
Mae’r AFG yn fwy nag oriel; mae’n ganolfan i gymuned gelf Gogledd Cymru. Rydym yn cynnig opsiynau dysgu hyblyg, gyda sesiynau’n cael eu cynnal yn yr oriel, mewn mannau dan-do eraill, yn yr awyr agored, neu hyd yn oed ar-lein! Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i chi gynnwys archwilio artistig yn eich bywyd prysur.
