Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

manual override of alt text

Conwy Classical Music Festival - THE FESTIVAL LECTURE

RHIAN DAVIES (Speaker) and MAXIMILIAN EHRHARDT (Harp) - ‘Living by Sounds’: Harpers and Tourists in Wales - 24/7/26 3yp-4yp

Dyddiadau Digwyddiad
24/07/26 - 24/07/26

Lleoliad
The Royal Cambrian Academy, Crown Lane, Conwy

Yn y ddeunawfed ganrif a’r pedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sain y delyn deires ynanwahanadwy o brofiadau teithio yng Nghymru. I ymwelwyr yn dilyn llwybrau twristiaid,roedd ein offeryn cenedlaethol yn cynnig sain oedd yn denu ac i’w glywed yn barhaolymhobman.

Mae’r hanes cymdeithasol tu ôl i'r ddelwedd ramantaidd hon yn gyfoethog ac yn darlunio telynorion proffesiynol crwydrol a enillai eu bywoliaeth drwy berfformio i ymwelwyr, aelodau o deuluoedd bonedd a chymunedau lleol. Ceir golwg o’r hen arferion hyn mewn dyddiaduron, darluniau allythyrau’r cyfnod yn ogystal â’r alawon telyn eu hunain.

Gwahoddir y gynulleidfa i gymryd cam yn ôl tra bod y ddau berfformiwr yn archwilio bywydau’r telynorion hyn, o’r rhai enwog yng Nghonwy, a arweiniwyd gan John Smith, y telynor dall, i delynor Llangollen adawodd Felix Mendelssohn yn diodde o’r ddanodd wedi ei berfformiad.

24/7/26 3yp-4yp

Chwilio Safle

    Cau