Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

Members:
JULIE DAVIS

ETHOLWYD YN 2026

Yn wreiddiol o Northampton, symudodd Julie Davis i Gymru yn 2004 a graddiodd gyda MA mewn Celf a Hanes Celf o Brifysgol Aberystwyth yn 2010.

Ers hynny mae Julie wedi arddangos ei chelf yng Nghymru, yn y DU ehangach gyda Chymdeithas Frenhinol yr Artistiaid Benywaidd (Royal Society for Women Artists) a'r Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr (Royal West of England Academy) - ac yn Ewrop. Mae hi'n derbyn comisiynau'n rheolaidd. Gan ddefnyddio technegau paentio olew traddodiadol yn bennaf, mae gwaith Julie yn canolbwyntio ar fywyd llonydd a phortreadau.

"Rwyf i weithiau yn meddwl o fy hunan fel 'pioden': casglwraig pethau a ddarganfuwyd. Mae stori y tu ôl i bopeth sy'n eiddo i ni. Mae'r ffordd rydym ni (ac weithiau creaduriaid eraill) yn rhyngweithio â'n pethau o ddiddordeb mawr i fi.

Gall paentiad bywyd llonydd fod yn llawer o bethau. Portread neu dirlun. Gall y ffordd y mae pethau wedi cael eu trefnu yn awgrymu bwriad a naratif, ac rwy'n aml yn cael fy nenu at eitemau rydym ni'n gweld bob dydd. Yn yr eitemau cyffredin hyn, gellir dod o hyd i ymdeimlad o chwareusrwydd neu — fel dywedir yng Nghymru — hiraeth."

Chwilio Safle

    Cau