Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

manual override of alt text

Gweithdy Peintio Gesso a Thempera Wy Traddodiadol

Ymunwch ag aelod yr AFG, Carys Wilson, yn yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy am weithdy paentio gesso traddodiadol a tempera wy ar 18 Ebrill 2026.

Dyddiadau Digwyddiad
18/04/26 - 18/04/26

Lleoliad
Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, Gogledd Cymru

Gweithdy ymarferol yw hwn, lle byddwch yn edrych ar sut i wneud gesso traddodiadol gan ddefnyddio glud croen cwningen a whiting. Bydd pawb yn dysgu sut i gymysgu ac yna rhoi haenau o gesso ar fyrddau sydd wedi eu wedi’u paratoi. Wedyn, byddwn yn dysgu sut i wneud a defnyddio paent tempera wy, a defnyddio bwrdd parod i brofi sut i weithio gyda’r cyfrwng yma. Mae’r ddwy broses yn araf, yn ofalus ac yn dawel – ffordd berffaith o arafu lawr yn y stiwdio a chanolbwyntio’n llwyr ar y broses o greu arwyneb a phaent.

Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer rhai 15 oed a throsodd.

Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol, yn ogystal â sut mae gesso a phaent tempera wy wedi cael eu defnyddio mewn celf drwy’r hanes ac mewn gwaith mwy cyfoes. Byddwch hefyd yn trafod arferion stiwdio diogel a da wrth ddefnyddio’r deunyddiau yma.

Mae’r holl ddeunyddiau wedi’u cynnwys, ynghyd â chefnogaeth arbenigol gan yr artist profiadol ac aelod yr AFG, Carys Wilson.

Addas i ddechreuwyr ac i bobl sydd eisoes â phrofiad.

Y Tiwtor

Carys Wilson AFG
Mae Carys wedi cynnal nifer o weithdai ar wneud gesso traddodiadol a phaent tempera wy, yn ogystal â gweithdai ar sgiliau lluniadu a datblygiad, mentora grŵp ac un-i-un – yn ddiweddar yn StudioKIND ym Marnstaple (Dyfnaint), Penlee House a Gallery ym Mhenzance (Cernyw), Oriel Gelf Falmouth (Cernyw), a sawl gweithdy mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid.

Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o redeg gweithdai mewn amrywiaeth o lefydd.

Beth i ddod â chi

Mae’r holl ddeunyddiau wedi’u cynnwys.
Dewch mewn hen ddillad neu dewch a ffedog.

Dyddiad

Dydd Sadwrn 18 Ebrill, 10yb–4yp (sesiwn drwy’r dydd – dewch â’ch cinio eich hun).

FFi

£65

Mae archebu’n hanfodol – mae’r cyrsiau’n hynod boblogaidd ac fel arfer mae rhestr aros.

I archebu lle, ymwelwch a'r Lon y Goron, Conwy LL32 8AN neu ffoniwch 01492 593413.

Chwilio Safle

    Cau