Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnwys 434 milltir o afonydd a dros 100 o lynnoedd. Mae ei raeadrau, ei afonydd creigiog, a'i cheunentydd wedi swyno'r artist Debbie Baxter AFG ers bron i dair blynedd.

Dyddiadau Arddangos
03/05/25 - 21/06/25
Lleoliad
Oriel Isaf, Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, Gogledd Cymru
Ei phrif ffocws oedd Afon Lledr, lle bu'n archwilio ei phatrymau dyfrllyd dirifedi ar draws gwahanol dymhorau wrth iddi raeadru i lawr o'r mynyddoedd. Mae'r afon yn rhuo'n ddramatig pan mae mewn llifeiriant ac yn disgleirio'n llachar yng ngolau haul y gwanwyn. Mae Debbie wedi dal hanfod dŵr gwyllt Cymru wrth iddo lifo heibio yn ei olygfeydd garw dramatig. Gwelir Debbie yn aml yn balansio ar greigiau yng nghanol afon gyda phalet a phaent yn ei llaw.Mmae hi'n defnyddio paent acrylig i ymgolli'n llwyr yn nheimlad a grym y dyfroedd hudolus yma.
Mae'r gwaith i gyd ar werth - am ragor o wybodaeth neu i brynu, ffoniwch 01492 593413