Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

manual override of alt text

Crochenwyr Gogledd Cymru - Y Tu Hwnt I'r Llestr

Mae crochenwyr Gogledd Cymru yn ein swyno gyda'u cerameg.

Dyddiadau Arddangos
27/08/26 - 03/10/26

Lleoliad
Oriel Uchaf, Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, Gogledd Cymru

Crochenwyr Gogledd Cymru

Mae Cymdeithas Crochenwyr Gogledd Cymru yn dod ag unigolion o bob cefndir at ei gilydd sy'n ymddiddori mewn clai; crochenwyr proffesiynol, amaturiaid, myfyrwyr, athrawon neu gasglwyr. Ein nod yw addysgu ac ysgogi trwy gyfnewid technegau, syniadau ac athroniaeth, tra'n darparu cyfleoedd marchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer ein haelodau trwy ein rhaglen o arddangosfeydd.

Mae gennym flwyddyn lawn o ddigwyddiadau, sy'n cynnwys arddangosiadau a sioeau sleidiau gan grochenwyr gwadd. Mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol rydym yn cwrdd â chrochenwyr o fri rhyngwladol sy'n rhannu eu technegau gyda ni. Trwy rannu prydiau bwyd a gwahanol weithgareddau, rydym i gyd yn dod i adnabod ein gilydd yn well ac yn dysgu sgiliau newydd i'w defnyddio yn ein gwaith ein hunain.

Mae "Claywork", ein cylchgrawn chwarterol a anfonir i'r holl aelodaeth, yn cynnwys erthyglau, newyddion, digwyddiadau, gwybodaeth, adolygiadau a lluniau, gyda'r aelodau yn ysgrifennu ar gyfer yr aelodau. Mae'r cylchlythyr presennol yn cael ei anfon trwy e-bost, ond gallwch ofyn am un wedi'i bostio am dâl bach.

Bob dwy flynedd mae Crochenwyr Gogledd Cymru, ar y cyd â Chrochenwyr De Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn trefnu'r Ŵyl Ryngwladol Serameg ysblennydd. Dyma gyfle unigryw i ymuno â rhai o grochenwyr ac artistiaid cerameg mwyaf blaenllaw'r byd, i gyd wedi dod ynghyd ar gyfer penwythnos addysgiadol a llawn cyffro.

Yn 2003, sefydlodd grŵp bach o aelodau Crochenwyr Gogledd Cymru oriel gydweithredol yng Nghonwy, ac mae modd i bob aelod llawn ymuno â'r oriel. Mae'r lle yn gyfyngedig, felly mae gennym restr aros. Ni yw'r unig oriel serameg arbenigol yng Ngogledd Cymru, yn arddangos gwaith gan artistiaid lleol, i gyd yn unigryw a'r cyfanwedi'i wneud â llaw.

Os hoffech ddysgu mwy amdanom ni, ewch i'n gwefan: www.thepottersgallery.co.uk

Chwilio Safle

    Cau