Jan Gardner AFG, Peter Welford AFG a George Drought AFG
Jan Gardner AFG, Peter Welford AFG a George Drought AFG
Dyddiadau Arddangos
04/06/26 - 11/07/26
Lleoliad
Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, Gogledd Cymru
Er bod fy mhaentiadau yn gynrychioliadol, nid yw fy ngwaith celf yn ymwneud â realaeth. Yn hytrach, dwi'n trio creu byd paralel, tebyg i freuddwyd, wedi’i gymryd o natur, gan ffurfio colaj o elfennau’r realiti dwi'n arsylwi. Trwy hyn, dwi'n creu byd rhithwir lle mae fy alegorïau a’m sylwadau yn adlewyrchu harddwch delfrydol, ond gyda thensiwn seicolegol.
Mae cytgord y lliwiau a gorffeniad technegol deniadol wedi’u cynllunio i wrthbwyso’r pwnc (sy’n aml yn annifyr). Caiff themâu traddodiadol eu hailystyried er mwyn archwilio eu perthnasedd mewn byd sy’n ddibynnol ar bethau materol ac mewn dryswch ysbrydol.
“Mae Peter Welford yn bwriadu i’w gelf gael ei gweld fel drych. Os nad yw’r adlewyrchiad bob amser yn hawdd iw dderbyn, felly boed. Nid paentiadau cysurus ar gyfer y salon yw’r rhain, ond yn hytrach math o newyddiaduraeth. Mae’r themâu’n heriol ac weithiau’n wleidyddol—nid monologau ond deialogau gyda’r gwyliwr. Mae natur alegorïaidd llawer o’r pynciau, a’r symbolaeth gudd ym mhob paentiad, yn gwneud y ddeialog honno’n fwy gwerthfawr. Po fwyaf yr edrychir, y mwyaf a geir.”
Syr Simon Jenkins
Bydd pob gwaith a yn cael ei arddangos yn Oriel Yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, rhwng 04/06/26 - 11/07/26. Mae’r gweithiau celf sy’n cael eu harddangos i’w gweld isod - beth am ddod i’r oriel i’w gweld yn fyw!
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu unrhyw un o'r gweithiau celf, lawrlwythwch y rhestr brisiau isod a chysylltwch â'r oriel ar 01492 593413.
Jan Gardner Peter Welford George Drought Price list June 2026