Rwy’n gweithio’n eithaf araf, gan adeiladu’r llun fesul tipyn o amlinelliad bras mewn pensil. Yna, gan ddefnyddio creonau, rwy’n cyflwyno’r lliw, ac wedyn yn tynnu’n fwy gofalus ac yn fanylach drosto â beiro a inc India.

Dyddiadau Arddangos
10/10/26 - 14/11/26
Lleoliad
Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, Gogledd Cymru
Roeddwn yn ffodus iawn i fod wedi byw yn un o’r rhannau mwyaf prydferth o Ddyffryn Gwy Uchaf, sef lle cafodd y rhan fwyaf o’r lluniau yn yr arddangosfa eu creu. Roedd y llechweddau’n frith o goedwigoedd hynafol ac wedi’u leinio gan lwybrau defaid. Roeddwn yn arfer cerdded yno’n gyson gyda’m cŵn, yn y dirwedd hynafol hon, a deuthum i’w charu ym mhob un o’i gwahanol hwyliau a’i thymhorau. O’r uchelfannau uwchben y dyffryn, roeddwn yn gallu gweld y Mynyddoedd Du a Bannau Brycheiniog, a oedd yn gefndir cyson i’m teithiau cerdded ac i’m lluniau. Bellach, rwyf wedi symud dros y ffin, ond ni fyddaf byth yn colli fy nghysylltiad dwfn â’r rhan arbennig honno o Gymru.
Mae fy ngwaith yn ymwneud yn bennaf â’r anifeiliaid sy’n rhan mor bwysig o’n treftadaeth genedlaethol, ac rwy’n gobeithio ei fod yn dathlu’r amrywiaeth wirioneddol gyfoethog a rhyfeddol o fridiau sydd gennym yn y wlad hon.