ETHOLWYD YN 2016
Rwy'n gwneud cerfluniau pensaernïol, er enghraifft dodrefn drws efydd bwrw Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
Rwyf hefyd yn creu gweithiau celf bregus a chain wedi fframio mewn metelau cymysg.
Yn ogystal, rwy'n gwneud gemwaith trawiadol du ac aur - mewn haearn a prês, neu cyfuniad o fetelau gwerthfawr a gemau disglair. Mae’r cymysgedd o fetalau yn creu edrychiad moethus o liwiau tywyll a chyfoethog. Gwelir manylion euraidd, gweadau amrwd organig a diferion gwlithog o efydd llyfn yn sgleinio.
Rwy'n gofannu ac arbrofi gyda deunyddiau a thechnegau newydd i greu cerfluniau mawr a bach. Rwy'n cael fy nylanwadu'n bennaf gan natur, hanes a chymeriad naturiol y deunyddiau.
Mae gen i efail ystâd wledig yn Glynllifon a siop gemwaith a stiwdio ar y stryd fawr - Siop iard - o fewn tref gastell gaerog Caernarfon.
Website