ELECTED IN 2006
DIRNADAETH YW SYNIAD. CYNHWYSO'R EGIN A’R BLAGUR A RYDD FFURF I WACTER A MIWSIG I DDISTARWYDD.
Mae fy nheimladau i tuag at dirwedd yn gymaint o ymateb i gyflwyr y ddynol ryw ag ydynt i’r tirwedd ei hun. Mae cyfaredd ddwy-ochrog yn fy newis i lynu wrth y ddelwedd naturiol tra yn ymgodymu âr gyfrinach foesol guddiedig.Mae’r Gymraeg yn hen iaith hardd a rhamantus ac y mae’n hanfodol o’m diwylliant.Ar ôl ail - adrodd stori Blodeuwedd a chael sgyrsiau diddorol gyda'r diweddar Athro Gwyn Thomas; datblygodd delewddau'r arallfyd yn stori Blodeuwedd drwy amgyffred y teimladau a’r grymusterau ynddi - pethau sydd mor bwerus heddiw ag oeddynt yn yr Oesoedd Canol.
Fy themâu tragwyddol yw - cariad, colled, trawsnewid a dathlu. Fe welwch barhad o ddefnyddio metaffor ar themâu tragwyddol yn gyson fy ngwaith.Mae ‘r syniad o ddewiniaeth ac arallfyd Straeon y Mabinogi, imi yn cymharu â’r dewiniaeth ac arallfyd yn natblygiadau’r ugeinfed ganrif ar hugain ym mŷd AI. heddiw.
GORESGYN Y GAIR LLYTHRENNOL DRWY FFURF, LLIW A GWEAD YW SIALENS YR YMATEB IMI.