Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

Members:
NESTA ELUNED

Aelod Cysylltiedig Etholedig yn 2023; Aelod Llawn yn 2026

Wedi ei geni ac yn byw yn Eryri mae hi yn dwyn i gof y tirwedd o’i chwmpas mewn paentiadau mynegiannol sy’n cyfleu cysylltiad dwfn a diffuant gyda’r tirwedd mae nhw’n ei disgrifio.

Ar ol mynychu Coleg Celf Lerpwl ond wedi gwyro yn ei gyrfa mae hi bellach wedi dychwelyd i beintio gan gyflawni awydd hirhoediog i fod yn artist llawn amser.

Mae ei hymarfer peintio yn dechrau gyda braslunio tu allan i baratoi ar gyfer gwaith stiwdio. Mae’r peintiadau’n cynnwys marciau egniol gyda haenau o baent wedi eu hychwanegu a’u tynnu. Mae ‘r paentiadau’n dod i’r amlwg weithiau o le penodol, weithiau ddim ond mae ffynhonnell yr ysbrydiolaeth yn dod o’r ymdeimlad o fod wedi ei gwreiddio yn y tir o’i chwmpas.

Website

Chwilio Safle

    Cau