Mae Rob Piercy wedi bod yn paentio yn broffesiynol ers yr wythdegau cynnar. Roedd yn athro celf am gyfnod, cyn cymeryd y gam dewr o adael ei swydd dysgu i ganolbwyntio ar ei baentio. Roedd hyn yn ddipyn o gambl oherwydd roedd Rob a’i wraig Enid yn magu teulu ifanc, talu morgais ac ar ganol sefydlu oriel yn Mhorthmadog.
Yn gyn aelod o’r Clwb Alpaidd Prydain Fawr, mae Rob yn fynyddwr profiadol wedi dringo drwy ynysoedd Prydain ac Ewrop. Yn naturiol ei hoff bwnc yw’r mynyddoedd, yn enwedig ei deyrnas lleol sef Eryri. Mae hefyd yn cyfaddef rhywfaint o dynfa at bentre fympwyol Portmeirion.
Website