Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

Dadorchuddio Portread Eithriadol Nick Elphick yn yr AFG

Cafodd aelod o’r AFG, y cerflunydd, Nick Elphick, ei gomisiynu i greu’r darn yma ar gyfer rhaglen deledu’r BBC Extraordinary Portraits.

Dadorchuddio Portread Eithriadol Nick Elphick yn yr AFG

Published: 27.03.2026

Dyma stori Nick ei hun am sut ddaeth y comisiwn hwn i fod:

“Ces i wahoddiad i fynd yn ôl ar Extraordinary Portraits, ac roeddwn i wir wedi fy syfrdanu pan ddatgelodd Bill Bailey y byddwn i’n cerflunio Darryn ac yn adrodd ei stori anhygoel. Roedd hynny’n anrhydedd mawr.

Darryn yw’r dyn a helpodd, gyda dim ond tusg narwhal, i atal yr hyn a allai fod wedi bod yn ymosodiad terfysgol hyd yn oed yn waeth ar Bont Llundain. Fe wnaeth ei ddewrder amddiffyn nifer fawr o bobl. Ond y tu hwnt i’r foment honno, mae ei stori’n un o gryfder tawel, gostyngeiddrwydd a thosturi.

Daeth y darn yn un personol iawn i mi. Rhoddais bopeth iddo, gan weithio diwrnodau pymtheg awr i’w gwblhau o fewn yr amserlen tyn. Doedd Darryn ddim yn hawdd ei ddarllen—nid yw’n rhywun sy’n siarad yn rhwydd am ei brofiadau. Gadawodd y trawma ef gydag PTSD, ac mae’n osgoi cael ei weld fel arwr. Yn hytrach, mae’n troi’r sylw at ei elusen a’r bobl mae’n eu helpu. Dyna pryd sylweddolais bod Darryn yn empath eithriadol. Mae ei reddf i amddiffyn eraill, hyd yn oed ar gost bersonol fawr, yn dod o empathi dwfn.

Felly roedd rhaid ail-ddychmygu’r tusg narwhal. Doedd e byth yn arf - roedd e’n darian. Symbol o amddiffyn, nid o ymosod.

Wrth gerflunio, roeddwn i hefyd yn prosesu ei stori ef a’m hemosiynau fy hun. Des i weld fod yr hyn a ddigwyddodd wedi effeithio’n ddwfn arno—wedi’i niweidio hyd yn oed. Ond o’r anhrefn hwnnw, mae wedi ailadeiladu ei hun. Arweiniodd hyn fi at syniad kintsugi—y grefft Japaneaidd o drwsio pethau wedi torri, gydag edau aur, gan eu gwneud yn fwy prydferth oherwydd eu hanes. Yn y cerflun, mae’r tusg wedi torri ac wedi’i thrwsio, ac mae’r edafedd aur yn rhedeg trwy ei gorff cyfan. Mae'n dangos sut mae wedi troi poen yn bwrpas, gan ddod yn gryfach ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Ar y funud olaf, teimlais fod angen ychwanegu pwysau ar ei ysgwyddau. Trodd hyn yn ddis gyda’r rhif un arno—atgoffa mai dim ond un bywyd sydd ganddo, ac mae’n werth ei ddiogelu, hyd yn oed wrth iddo fyw er mwyn eraill.

Roeddwn i’n nerfus am y dadorchuddiad. Dewisais ddangos nid yn unig ei gryfder, ond hefyd ei dristwch a’i fregusrwydd—pethau mae’n aml yn eu cuddio. Roedd yn bwysig i mi fod ef a’i deulu a'i ffrindiau yn gweld y gwirionedd yma.

Cerfluniais ei freichiau ar wahân, fel y gall Darryn ar y diwrnod godi’r tusg narwhal ac ail-osod ei ddwylo. Mae ei ddwylo’n cynrychioli gweithredu—yr offer i wneud newid. Drwy wneud hynny, mae’n cael dewis: I ailgysylltu, adennill, a symud ymlaen y tu hwnt i’r hyn a ddigwyddodd.

Yn y pen draw, roeddwn i eisiau i’r darn wneud gwahaniaeth yn ei fywyd. Rwy’n credu ei fod yn dangos ei gryfder, ei garedigrwydd, ac, yn bwysicaf oll, ei wirionedd.”

Mae’r gwaith i’w weld yn Oriel Isaf yr AFG yng Nghonwy, fel rhan o Arddangosfa Aelodau Newydd, o ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026.

Mae’r rhaglen deledu ar gael ar-lein drwy BBC iPlayer: https://www.bbc.co.uk/iplayer/

Pagination

Chwilio Safle

    Cau