Gyda thristwch mawr y nodwn fod yr artist Iwan Gwyn Parry wedi marw, yn ddim ond 55 oed.
Yn beintiwr o dirweddau dŵr gweledigaethol wedi’u hysbrydoli gan arfordir gogledd-orllewin Cymru yr oedd yn ei garu, cafodd arddangosfa unigol gref yn Oriel Celf yng Nghaerdydd ym mis Hydref.
Arddangosodd Iwan ledled Cymru ac mewn orielau yn Llundain a Dulyn. Gellir dod o hyd i’w waith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad Celf y Llywodraeth, Prifysgol De Cymru, Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Phrifysgol Bangor.
Roedd yn aelod ffyddlon a gwerthfawr o Academi Frenhinol Gymreig y Celfyddydau.
