Search
    Close

    Nothing in your cart yet, add something.

    Oriel Yrafg Yn Agor Ar Gyfer Rhagolwg Yocsiwn

    Bydd yr Academi Frenhinol Gymreig yn ailagor ei horiel yng Nghonwy ar gyfer tri diwrnod rhagolwg arbennig cyn ei hocsiwn codi arian ym mis Rhagfyr.

    Oriel Yrafg Yn Agor Ar Gyfer Rhagolwg Yocsiwn

    Published: 27.11.2025 ( 4 months ago )

    Bydd gan ymwelwyr gyfle i weld dros 200 o weithiau celf, yn gynnwys paentiadau, brasluniau, argraffiadau a cherfluniau, a gyflwynwyd gan aelodau blaenorol a presennol, yn ogystal â chefnogwyr hirdymor.

    Bydd yr oriel ar agor rhwng 11yb a 4yp ddydd Sadwrn 29 Tachwedd, 6 Rhagfyr a 13 Rhagfyr. Mae’r diwrnodau rhagolwg yn rhoi cyfle i brynwyr posibl, cefnogwyr a’r gymuned ehangach archwilio’r holl waith cyn i’r ocsiwn ddechrau.

    Bydd yr ocsiwn codi arian yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 3–18 Rhagfyr 2025, gyda Rogers Jones Auctioneers. Bydd delweddau a manylion ar gael ar eu gwefan unwaith y bydd yr ocsiwn yn fyw: www.rogersjones.co.uk

    Bydd yr arian a godir yn cefnogi ymdrechion yr Academi i adfer ar ôl y bygythiad diweddar o gau. Mae’r AFG yn croesawu pawb i ymweld â’r oriel i edrych ar y casgliad a dysgu mwy am y gwaith sydd yn yr ocsiwn.

    Pagination

    Chwilio Safle

      Cau