Golwg yn ôl ar y mis diwethaf o weithgareddau.
Golwg yn ôl ar y mis diwethaf o weithgareddau.
Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yn yr oriel dros y mis diwethaf, gyda llawer o weithgareddau. Felly roedd yn syniad da edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni ers ailagor.
Lansiwyd arddangosfa Aelodau Newydd 2026 ym mis Mawrth, gyda gwaith deunaw o’n haelodau mwyaf newydd. Roedd amrywiaeth eang o gelf ar gael i’w weld, gan gynnwys cerflunio, paentio a phrintio.
Newyddion cyffrous i'r Academi oedd clywed bod cerflun Nick Elphick ar gyfer rhaglen Extraordinary Portraits y BBC am ddod i’r oriel, ac mae wedi bod ar ddangos fel rhan o’r arddangosfa. Cafodd Nick ei wneud yn aelod o’r AFG yn ddiweddar, ac fel aelod newydd dangosodd y cerflun yma yn yr oriel. Mae wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi denu llawer o ymwelwyr dros y mis diwethaf.
Rydym wedi cael rhaglen brysur o weithdai a digwyddiadau. Cafwyd sawl dosbarth darlunio byw gyda dau diwtor profiadol iawn sy'n aelodau o’r AFG, Susan Cantrill-Williams a Peter Moore. Cynhaliodd Carys Wilson weithdy paentio traddodiadol (gesso ac egg tempera), ac roedd cyfleoedd i gwrdd ag artistiaid yr RCA wyneb yn wyneb. Hefyd, perfformiodd Andy Dobbie arddangosiad paentio portread byw yn yr oriel uchaf.
Cyfarfu grŵp celf a chrefft lleol Cadwgan Soup am y tro cyntaf yn yr oriel. Os oes diddordeb gennych i ymuno, mae’r grŵp yn cyfarfod bob trydydd dydd Gwener o’r mis. Mae’r grŵp yn cynnig lle tawel, heb straen, i wneud celf a chymdeithasu, ac mae croes i bawb.
Yn olaf, rydym yn paratoi ar gyfer Arddangosfa Agored 2026 yr AFG, sy’n agor yn swyddogol ddydd Sadwrn 25 Ebrill. Cafwyd dros 400 o weithiau gan dros 250 o artistiaid. Diolch yn fawr i bawb a gyflwynodd waith – roedd y safon yn uchel iawn. Roedd gan y tri beirniad dasg anodd iawn i ddewis 175 o weithiau i’w harddangos yn yr oriel dros y mis nesaf. Dewch draw ddydd Sadwrn 25 Ebrill rhwng 2yp a 4yp ar gyfer y lansiad, ac i weld pwy sy’n ennill y wobr gyntaf o £500 a gwobr dewis y cyhoedd o £100.