Search
Close

Nothing in your cart yet, add something.

Arddangosfa Agored 2026 – Digwyddiad Lansio

Ar Ddydd Sadwrn 25 Ebrill lansiwyd yr Arddangosfa Agored 2026. Cafwyd dros 400 o geisiadau o safon uchel iawn, ac fe ddewisodd y beirniaid 175 o weithiau celf i’w dangos yn yr oriel dros y mis nesaf. Felly, pwy enillodd y wobr o £500?

Arddangosfa Agored 2026 – Digwyddiad Lansio

Wedi cyhoeddi: 26.04.2026

Croesawyd dros 220 o bobl i lansiad Arddangosfa Agored yr AFG 2026. Roedd hi’n wych gweld cymaint o artistiaid yn teithio i Gonwy o bob rhan o’r wlad i weld eu gwaith ar y waliau.

Roedd safon y gwaith yn uchel iawn, ac roedd hi’n anodd iawn i’r beirniaid ddewis enillydd. Cafodd nifer o weithiau ganmoliaeth uchel, ond dim ond un allai ennill – ac enillydd y wobr o £500 yw Adam De Ville am ei waith “Contemplating a move towards positivity”.

Gwaith wedi ei ganmol yn uchel

Aisling McWilliam 'Crowded Inside' Engrafiad pren
Amanda Webster 'When Light turns to Shade' Olew ar ganfas
Suzanne Callen 'Resonance' Olew ar ganfas
Paula Dunn 'Before the Edge of Wilderness' Olew ar ganfas
Sisil Fernando 'Guide Dog' Acrylig ar ganfas

Diolch i bawb a ddaeth i'r agoriad ac i bawb a gymerodd ran.

Pagination

Chwilio Safle

    Cau